English

 

Draig Werdd
The Welsh Society in Ireland




Cynnwys
  • Croeso
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Cylchlythyrau
  • Cysylltwch
  • Bwrdd Negeseuon
  •  

    Llaw dirion dealltwriaeth
    dros y dŵr
    yw stori'n cenhadaeth,
    dwy law tu draw i ddau draeth
    yn dala'r un frawdoliaeth

    Dwy law yn cudio'n dawel,
    a dwy law'n
    dal dwy wlad yn ddiogel,
    y ddwy yn dal, doed a ddêl,
    'run gwir ar yr un gorwel.

    Mererid Hopwood, Tyddewi, Awst 2002

    Gwnest ddygymod â thlodi
    a'r Cymro'n dy wawdio di;
    un o lwyth y genedl od
    yn dduwiol yn dy ddiod.
    Mewn baw ar domenni byd,
    Nafi pob twnel hefyd.

    O gaethiwed caledi
    yn ddiymffrost daethost ti
    i gerdded gydag urddas
    o fyd brwnt i fywyd bras.
    Rho hanner dy gyfrinach
    i ni sy'n rhannu'r un ach. 

    John Glyn Jones
    Barddas, Rhif 296, Ionawr/Chwefror 2008

     

    YMUNWCH HEDDIW - CLICIWCH YMA!

    Parti Gŵyl Dewi 2012 yn Nulyn

    Nos Iau 1 Mawrth am 8 yh:  Doheny & Nesbitt, Baggot Street, Dulyn 2
    Cliciwch ar y faner isod am fwy o fanylion

     

    27.10.2011  Cyfarfod blynyddol 2011- adroddiad
    15.07.2011  Cymdeithas Cymreig Dulyn 1964-66
    17.05.2011  Hen Gapel Cymraeg Dulyn ar Deledu RTE
    19.01.2011  Cinio Gwyl Dewi 2011 - y lluniau
    10.06.2010  Taith Gerdded 23 Mai 2010
    30.04.2010  Cwrw Brycheiniog nawr ar gael yn Iwerddon
    22.10.2007  Dathliadau penblwydd 100 oed
    25.08.2006  Geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg LEXICELT
    21.07.2006  Prosiect Achyddiaeth y Tri Celtaidd: yn cysylltu disgynyddion Cymreig gyda'u gwreiddiau

    Mudiad wedi ei sefydlu yng Ngweriniaeth Iwerddon yw 'Draig Werdd - the Welsh Society in Ireland' gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth am Gymru a materion Cymreig yn Iwerddon, ac i roi rhwydwaith cymdeithasol i'r Cymry sy'n byw yn Iwerddon.

    Mae'n cynnwys unigolion o wahanol gefndiroedd cenhedlig a diwylliannol sy'n awyddus i hybu materion Cymreig yn Iwerddon, a hynny ar adeg pan fo cyfnod newydd ar ddechrau ym mywyd gwleidyddol, economaidd a diwyliannol Cymru gyda sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

    Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Draig Werdd!

    Draig Werdd - the Welsh Society in Ireland

    Dolennau eraill
  • Côr Cymry Dulyn
  • Fforwm Cymru y Newyn
  • Cylchgronau Gwyddelig- Cymreig
  • Cymdeithasau Cymry Alltud
  •  


    Ymunwch
    â ni ar
    Facebook

     



    Ryseitiau Cymreig ar "Coginio"


    Cymdeithas
    Dewi Sant
    Gogledd Iwerddon


     



    Diweddarwyd ar 12/01/2012 © Draig Werdd 2003-2011