English

 

Draig Werdd
The Welsh Society in Ireland




Cynnwys
  • Croeso
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Cylchlythyrau
  • Cysylltwch
  • Bwrdd Negeseuon
  •  


    Digwyddiadau

    Parti Gŵyl Dewi 2012

    Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2012 yn Nulyn gyda pharti yn nhafarn Doheny & Nesbitt, Baggot Street, Dulyn 2: http://www.dublinpubscene.com/thepubs/dohenynesbitt.html. Bydd hwn yn cymryd lle ar nos Iau, 1 Mawrth, mewn ystafell breifat lan llofft yn y dafarn, yn dechrau am 8 yh. Bydd bar ar gael, a bydd bwyd ysgafn yn cael ei ddarparu, gyda miwsig, fideo a sgwrsio. Felly os ydych chi yn Nulyn ac am ddathlu ein dydd cenedlaethol gyda ni, dewch ar y noson - mae'n siŵr o fod yn achlysur cymdeithasol a chyfle gwych i gwrdd â phobl eraill o Gymru sydd yn byw yn Nulyn. Croeso cynnes i bawb!


    Cyfarfod Blynyddol 2011 - Adroddiad

    Cynhalwyd Cyfarfod Blynyddol 2011 y Ddraig Werdd ar 20ed Hydref yn Scruffy Murphy's, Dulyn.   Etholwyd y pwyllgor dilynol i wasanaethu am y flwyddyn 2011/12:

    Robin Smith (cadeirydd)
    Gareth Llwyd Jones (ysgrifenydd)
    Geraint Waters (trysorydd)
    Mike Cooke
    Richard Bonney
    Greg Owen

    Fe ddangoswyd y ffilm "Separado" wedi'r cyfarfod.  Siomedig iawn oedd nifer oedd wedi mynychu'r cyfarfod, sefyllfa a achosodd tipyn o drafodaeth am strwythur y gymdeithas yn y dyfodol, pwnc a fydd dan sylw pellach gan y pwyllgor newydd.   Diolch am y rhai oedd yn bresennol am eu cefnogaeth i fodolaeth cymdeithas Gymreig yn Iwerddon.


    Capel Cymraeg Dulyn ar Deledu RTE

    Cafodd erthygl am yr hen gapel Cymraeg Dulyn yn Talbot Street, Dulyn, ei darlledu yn y rhaglen cylchgrawn RTE "Capital D" ar nos Iau, 12 Mai, 2011.  'Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda nifer o aelodau Draig Werdd, gan gynnwys hen aelod y capel, Howell Evans, sydd yn 103 mlwydd oed, a soniodd am ei hen atgofion o'r capel.  

    Ewch it http://www.youtube.com/watch?v=cpFHYO-DNZ4 i wylio'r darn.


    Cinio Gwyl Dewi 2011

    Cynhaliwyd cinio gan y Ddraig Werdd mewn Gwesty'r Alexander yn Nulyn ar 5 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2011. Siaradwr gwadd oedd cyn-capten tîm rygbi Cymru a'r Llewod, John Dawes. 40 mlynedd ar ôl i John arwain Cymru i'r Gamp Lawn a'r Llewod i fuddugoliaeth yn Seland Newydd, siaradodd gyda hiwmor a chynhesrwydd am yr achlysuron yna ac am ei brofiadau o ymweld â chymdeithasau Cymreig o gwmpas y byd. Oedd nifer fawr o bobl yn bresennol i glywed ei gyfraniad tuag at noson hynod o bleserus, ac oedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan rhai o aelodau Côr Meibion Cymry Dulyn, a therfynodd trwy'r ganiadaeth o'r anthem genedlaethol.

    Cliciwch yma i weld nifer o luniau o'r noson.


    Taith gerdded - 23 Mai 2010

    Dyma detholiad o luniau o'n taith gerdded ym mynyddoedd Wicklow ar 23 Mai 2010.   Dechreuoedd y daith ym maes parcio Turlough Hill, ac aeth ymlaen ar hyd Ffordd Sant Kevin, Pont Annalecka,  Crib Barnacullian i lan i Stoney Top a Tonelagee (3ydd uchaf fan yn Wicklow), yn rhoi golygfeydd penigamp o'r mynyddoedd a Llyn Ouler o'n cwmpas ni.   'Roeddem yn ffodus am unwaith i gael tywydd ardderchog i gerdded, fel y gwelir o'r lluniau.   Cliciwch ar unrhyw un o'r lluniau i'w mwyhau.

     


    Cwrw Brycheiniog nawr ar gael yn Iwerddon

              

    Mae'r cwmni Fourcorners, sydd yn mewnforio ac yn dosbarthu cwrw yn Iwerddon, newydd wedi dechrau mewnforio a gwerthu cwrw Cymreig nodedig o'r Bragdy Brycheiniog yn Aberhonddu.   Mae nhw nawr yn dosbarthu 3 o'r cwrw gorau'r bragdy:  Brecon Golden Valley, Brecon Cribyn a Brecon Night Beacon.  

    Mae nhw ar hyn o bryd ar gael o'r llefydd dilynol:

     Dulyn:

    Redmonds Off Licence, Ranelagh, Dublin 6
    Drink Store, Manor St. Dublin 7
    Jus De Vine Off Licence, Portmarnock Town Centre, Co. Dublin
    Sweeneys Off Licence, Harts Corner (Finglas Road) Glasnevin, Dublin 11
    Jack Carvills Off Licence, Camden St. Dublin 2
    Deveneys Off Licence, Dundrum, Dublin 16
    Shevlins Off Licence, Main St. Rathfarnham Village, Dublin 14
    Brackens Off Licence Botanic Road, Glasnevin, Dublin 9
    Shiels Off Licence, Lower Dorset St., Dublin 1
    Ar gael ambellwaith yn y Porterhouse Bars yn  Temple Bar a Nassau St. Dublin 2

     Gweddill y wlad:

    Next Door Off Licence, Byrnes Irish house Bar, Kilcoole, Co. Wicklow
    Cheers Off-Licence Main St., Bray, Co. Wicklow
    The Castle Off-Licence, Boherbue, Tralee, Co. Kerry
    The Bierhaus Bar, Henry St. Galway City
    Matsons Wine Off Licence, Market Place Bandon, Co. Cork.

    Mae gwybodaeth am y bragdy a'r cwrw ei hun ar gael o www.breconshirebrewery.com.

    I drefnu dosbarthiadau i lefydd eraill, gofynwch at eich siop ddiodydd lleol, neu gysylltwch â Fourcorners trwy eu gwefan www.fourcorners.ie.

     


    Dathliadau penblwydd 100 oed

    Hoffem longyfarch yr aelod Draig Werdd Howell Evans, a ddathlodd ei benblwydd 100 oed ddydd ar Hydref 19, 2007.  Mae Howell wedi cefnogi'r gymuned Gymreig yn Nulyn dros gyfnod hir ar ôl byw yn y ddinas trwy ei holl fywyd, bron, er iddo fe gael ei addysg yng Nghaergybi yn Sir Fôn.   Er gwaetha'r blynyddoedd maith y tu allan i Gymru, 'dyw e ddim wedi colli ei gariad tuag at wlad ei dadau na'i frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg, a mae'n defnyddio'r iaith o hyd pan fo'r cyfle yn codi.  'Roedd Howell yn aelod o'r Côr Cymreig Dulyn am flynyddoedd, ac efe yw'r aelod byw olaf o'r capel Cymraeg yn Talbot Street, Dulyn - gellir ddarllen hanes Howell ei hun am y capel ar http://www.draigwerdd.org/Newsletters/Capel%20Cymraeg.rtf.

    Mae nifer o luniau o Howell gyda ffrindiau a pherthnasau i'w gweld yn isod.  Cliciwch ar unrhyw un o'r lluniau i weld y llun yn llawn.

    Howell gyda'i nith a'i or-nith

    Howell gyda Keith Young (ar y dde), arweiynydd Cor Cymry Dulyn, a'i gyn gyd-aelodau yn y côr, Geraint Waters (chwith) a Paddy Lee (ail o'r dde)

    Y teisen gyda llun o Howell arno

     


    Prosiect LEXICELT

    Mae'r geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg Lexicelt yn awr ar gael ar www.lexicelt.org - mae dolen i'r wefan hon i'w chael o'n tudalen gartref ni.  Amcan LEXICELT yw i ddarparu cymorth i siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg i ddysgu eu hieithoedd cyfatebol heb ddefnyddio'r Saesneg.  Mae stôr o ymadroddion a geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg i'w gael ar-lein yn rhad ac am ddim.  Bydd nid yn unig defnydd dysgu i'w gael ar-lein ond hefyd gwybodaeth am Gymru ac Iwerddon a fydd yn debyg i gynnau diddordeb am y ddwy wlad Geltaidd a'u diwylliant.

    Mae'r prosiect LEXICELT yn creu cyswllt pwysig rhwng Cymru ac Iwerddon, ac yn enwedig rhwng yr ieithoedd Cymraeg a Gwyddeleg.   Coleg y Brifysgol, Dulyn a'r Brifysgol Cymru, Bangor sydd yn gyfrifol am y gwaith ac un o aelodau'r tîm yw un o'n haelodau ni, sef Dr. Dewi Evans.  


    Prosiect Achyddiaeth y Tri Celtaidd: Yn cysylltu disgynyddion Cymreig gyda’u gwreiddiau

     Oes gennych chi ddiddordeb mewn olrhain eich achau?

    Os oes, efallai gall Catherine Tudor Jones o Wasanaeth Archifau Gwynedd fod o gymorth. Ar y funud, mae Gwynedd yn cymryd rhan mewn menter gyffrous o’r enw Prosiect Achyddiaeth y Tri Celtaidd. Dywedodd Catherine, sef y swyddog sy’n gweithio ar y prosiect “Ein bwriad yw creu cysylltiadau fel man cychwyn gan weithio tuag at astudiaeth achyddol ehangach yn y dyfodol”  

    Sefydlwyd Prosiect y Tri Celtaidd ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd yng Nghymru a dau archifdy yn Iwerddon sef Cyngor Dinas Dulyn a Chyngor Sirol Waterford. Cyllidwyd y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o ddatblygu’r diwydiant dwristiaeth o dan y teitl Interreg IIIA.

    “Ein gobaith yw sicrhau manteision economaidd a diwylliannol yn sgil y diddordeb cynyddol mewn hanes teulu. Gobeithiwn y daw agweddau positif iawn i dwristiaeth leol yng Ngwynedd wrth gryfhau cysylltiadau achyddol a diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Amcan y prosiect yw annog ymchwilwyr newydd i ymchwilio i agweddau Gwyddelig a Chymreig o’u llinach Geltaidd”.

    Fel rhan gychwynnol o’r prosiect, cynhaliwyd arolwg i’r diddordeb mewn achyddiaeth ymysg disgynyddion Cymreig ac i ddarganfod y cyswllt sy’n bodoli rhwng achyddiaeth a thwristiaeth. Anelwyd yr arolwg tuag at y Cymdeithasau Cymreig ar draws y Byd, a derbyniwyd ymateb ffafriol iawn. Roedd ymateb yr Americanwyr yn arbennig o galonogol gyda chanrannau uchel iawn yn dangos diddordeb mewn olrhain eu hachau. Ni ddaw hyn fel syndod o gysidro’r niferoedd uchel o allfudwyr Cymreig a symudodd i America yn dilyn ymfudiad enwog Tywysog Madog yn 1188. Ar hyd y blynyddoedd mae’r Cymry wedi gwneud cyfraniad pwysig i wleidyddiaeth, i ddiwydiant, i lafur, i’r gyfraith, i gerddoriaeth a chrefydd yn America. Cafodd Bryn Mawr ei ddewis fel enw ar fferm yn ardal Pensilfania wedi i grŵp o Grynwyr o Wynedd groesi Môr yr Iwerydd am America. Roedd 20% o dadau’r Pererin yn Gymreig fel oedd capten y Mayflower. Yn wir, roedd 50% o’r grŵp enwog a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth America yntau yn Gymreig neu o dras Gymreig gan gynnwys Thomas Jefferson.

    “Mae 1,753,794 o bobl o ethnigrwydd Cymreig yn byw yn Unol Daleithiau America yn ôl Cyfrifiad 2000. Meddyliwch am yr Eisteddfodau, Cymanfaoedd Canu a’r papur newydd Cymreig ‘Ninnau’. Rydym yn bwriadu targedu'r cymunedau Cymreig a gobeithiwn atynnu Americanwyr o dras Gymreig yn ôl i’w mamwlad er mwyn cael blas o hunaniaeth a diwylliant eu cyndadau”.

    Fel rhan o’r prosiect cynhaliwyd sawl cwrs hanes teulu yn Archifdy Dolgellau yn Sir Feirionydd. Y bwriad oedd addysgu perchnogion gwestai gwely a brecwast a’u hannog i fod yn ymwybodol o’r adnoddau ar gyfer hel achau sydd ar gael iddynt yn eu hardal. Fel canlyniad, bydd y perchnogion yn fwy abl i basio’r wybodaeth ymlaen i ymwelwyr a rhannu eu dealltwriaeth o waith yr archifdy lleol. Yn ystod y misoedd nesaf bydd cyrsiau pellach yn cael eu cynnal yn Nolgellau a hefyd yng Nghaernarfon ar gyfer bobl o fewn y sector dwristiaeth sy’n awyddus i ddysgu mwy am ffynonellau sydd ar gael yn eu harchifdy lleol a thu hwnt.

    Bydd gwefan i gyd-fynd gyda’r prosiect yn cael ei lansio ym mis Awst a fydd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am hel achau. “Fel rhan o’r prosiect ein bwriad yw cefnogi mentrau ieithyddol Cymreig a Gwyddelig”. O ganlyniad, bydd gwefan sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn defnyddio’r ieithoedd cartref sef Gwyddelig a Chymraeg yn ogystal â Saesneg. Mae Gwynedd hefyd yn gweithio ar gatalogio casgliadau newydd ac yn sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr ar-lein.

    Felly os oes gennych gysylltiadau teuluol yng Ngwynedd neu os y gwyddoch fod perthnasau ichi wedi mudo i’r Amerig dros y canrifoedd byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed unrhyw hanesion. Fel rhan o’r prosiect rydym wedi cynhyrchu arweinlyfr a phecyn gwybodaeth sy’n rhad ac am ddim. Os hoffech ragor o wybodaeth neu dderbyn copi o’r pecyn, cysylltwch â Catherine Tudor Jones trwy'r wefan ar www.triceltaidd.info .

    Uchod (o’r chwith i’r dde): Catherine Tudor Jones a Huw Pierce Pritchard o Wasanaeth Archifau Gwynedd ynghyd â Fiachra O Ceilleachair - Maer Tref Dungarvan, Y Cynghorydd Gerard Barron - Maer Sir Waterford a Joanne Rothwell, Archifydd yn Archifdy Sir Waterford ar achlysur lansio llyfryn Waterford a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect y Tri Celtaidd.


    Gwyl "Rhannu Diwylliant"
    Dalkey & Ynys Môn
    23-25 Medi 2005

    Trefnwyd gwyl hynod o lwyddiannus o 23-25 mis Medi, 2005, yn Dalkey, swydd Dulyn, Iwerddon gan y Ganolfan Etifeddiaeth yng Nghastell Dalkey a'r Swyddfa Cynllun Interreg Dalkey, mewn partneriaeth ag Oriel Ynys Môn, i hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol rhwng Dalkey ac Ynys Môn.

    Estynnodd y gwyl dros dri diwrnod, ac yn cymryd rhan oedd cynrychiolwyr y celfyddydau o Iwerddon ac o Gymru.  Yn cynrychioli Cymry oedd Côr ABC o Aberystwyth, y grwp dawnsio gwerin Ffidl Ffadl o Ynys Môn, a nifer o'r beirdd mwyaf blaenllaw yng Nghymru, gan gynnyws y prifeirdd Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Iwan Llwyd, Twm Morys ac Ifor ap Glyn.

    Gorffennodd yr wyl ar y Sul gyda pasiant trwy strydoedd Dalkey, oedd yn cynnwys Draig Gymreig a Gafr Dalkey (gan yr arlunydd Cymreig Toby Downing mewn partneriaeth a'r arlunwyr Valerie Coombes a John Higgins o Dalkey) yn crwydro eu ffordd lawr Stryd y Castell.

    Mi roedd y digwyddiadau o'r safon uchaf yn gyson trwy'r wyl, a mae'n rhaid llongyfarch y trefnwyr yn llwyr am hyrwyddo y cyfathrebiad arwyddocaol hwn, ac am roi'r cyfle i bobl Dalkey a'r cylch i gael blas ar draddodiadau a diwylliant Cymru - rhywbeth sy'n digwydd yn anaml iawn, er mor agos yw'r ddwy genedl at eu gilydd yn ddaeryddol.

    Cliciwch yma i weld nifer o luniau o'r digwyddiadau

     
    Dolennau eraill
  • Côr Cymry Dulyn
  • Fforwm Cymru y Newyn
  • Cylchgronau Gwyddelig- Cymreig
  • Cymdeithasau Cymry Alltud
  •  


    Draig Werdd - the Welsh Society in Ireland

    Diweddarwyd ar 12/01/2012 © Draig Werdd 2003-2011